Basdata YG Cenedlaethol

Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cymryd rhan mewn trefniant rhannu data gyda chronfeydd CPLlL eraill yng Nghymru a Lloegr. Gwneir hyn er mwyn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a gynhwysir o fewn y rheoliadau CPLlL.

Mae'r darpariaethau sy'n cael eu cynnwys yn y rheoliadau yn golygu, os bydd aelod o'r CPLlL yn marw, bod yn angenrheidiol i'r Gronfa wybod a oes gan yr aelod fuddion CPLlL eraill mewn mannau eraill yn y DU fel bod y buddion marwolaeth gywir yn cael eu talu i ddibynyddion yr aelodau ymadawedig.

Gan fod y CPLlL yn cael ei weinyddu'n lleol, mae gan bob cronfa bensiwn ei gofnodion buddion ei hun, felly gall fod yn anodd nodi a oes gan aelod gofnodion CPLlL eraill mewn man arall.

Er mwyn cydymffurfio â'r gofynion hyn, mae'r Gronfa Ddata Cenedlaethol yn galluogi cronfeydd i wirio bod gan eu haelodau gofnodion pensiwn CPLlL gyda chronfeydd eraill.

Ar gyfer pob aelod o'r CPLlL, mae Cronfa Ddata YG yn cynnwys rhifau YG unigolion, statws aelodaeth, y flwyddyn galendr olaf lle newidiodd y statws aelodaeth a rhif 4 digid sy'n benodol i'r gronfa bensiwn priodol.

Bydd y data a gedwir ar y Gronfa Ddata yn cael ei phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a deddfwriaeth berthnasol arall.