Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1.  Pa fuddion fydda i’n eu cael fel aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?

Fel aelod o’r cynllun buddion wedi’u diffinio, gallwch edrych ymlaen at: 

  • Pensiwn wedi’i warantu am oes yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy ym mhob blwyddyn tra yn y cynllun (neu aelodaeth a chyflog terfynol ar gyfer unrhyw aelodaeth a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2014).
  • Cynnydd yn eich pensiwn bob blwyddyn yn unol â chostau byw.
  • Yr opsiwn o lwmp swm di-dreth pan fyddwch yn ymddeol.
  • Buddion marwolaeth i briod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi (os ydynt yn dal yn fyw), yn cynnwys lwmp swm grant marwolaeth.
  • Buddion ymddeol oherwydd salwch os fyddwch chi’n mynd yn ddifrifol wael unrhyw bryd.
  • Ymddeoliad cynnar o 55 mlwydd oed. Efallai y bydd eich pensiwn yn cael ei ostwng yn sgil cael ei ryddhau’n gynnar. 
  • Ymddeoliad hyblyg - gallwch ddewis ymddeol yn raddol os yw’ch cyflogwr yn caniatáu hynny.   

Am fanylion llawn o’r opsiynau ymddeol sydd ar gael i chi, yna ewch draw i’r adran Pryd y gallaf ymddeol?  


2.  Os fydda i’n ymddeol yn gynnar, pam fydd fy mhensiwn yn cael ei ostwng?

Mae’ch Pensiwn Llywodraeth Leol yn daladwy am oes. Felly, os fyddwch yn ymddeol yn gynnar, rhagwelir y bydd eich pensiwn yn cael ei dalu am gyfnod hirach o amser. O ganlyniad, rydym yn cymryd hyn i ystyriaeth trwy ostwng eich pensiwn.


3.  A yw hi’n bosib derbyn ad-daliad o’m cyfraniadau?

Gallwch dderbyn ad-daliad o’ch cyfraniadau, llai unrhyw ddidyniadau treth a’r gost o’ch ailosod yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P), ar yr amod:

  • Eich bod yn gadael y cynllun o fewn dwy flynedd o ymuno â’r cynllun.
  • Nad oes gennych unrhyw hawliau pensiwn CPLlL eraill.
  • Nad ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun.

Os ydych yn dymuno peidio â chyfrannu at y cynllun, ewch i'r dudalen optio allan er mwyn lawrlwytho ffurflen optio allan.  


4.  Mae fy mhartner a minnau’n cyd-fyw â’n gilydd. A fydd fy mhartner yn gymwys i dderbyn unrhyw fuddion?

Fel rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a ddaeth yn weithredol ar 1af Ebrill 2008, cyflwynwyd buddion goroeswr i bartneriaid sy’n cyd-fyw (boed hynny’n bartneriaid o’r rhyw arall neu o’r un rhyw).

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i chi fedru profi fod pob un o’r meini prawf a ganlyn wedi bod yn berthnasol i chi am gyfnod parhaus o 2 flynedd:

  • Rydych wedi bod yn rhydd i briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil.
  • Rydych wedi bod yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn ŵr a gwraig neu bartneriaid sifil cofrestredig.
  • Nid yw’r un ohonoch wedi bod yn byw gydag unrhyw un arall, fel petaech yn ŵr a gwraig neu bartneriaid sifil.
  • Rydych yn gyd-ddibynnol ar eich gilydd yn ariannol, neu mae’ch partner wedi bod yn ddibynnol yn ariannol arnoch chi.


5.  Sut ydw i’n rhoi gwybod i chi am newid yn fy amgylchiadau, megis newid mewn cyfeiriad neu statws priodasol?

Os fydd eich amgylchiadau’n newid unrhyw bryd yn ystod eich aelodaeth, rhaid i chi roi gwybod i Gronfa Bensiwn Gwynedd yn ysgrifenedig trwy gwblhau y Ffurflen newid mewn amgylchiadau

Fel arall, gallwch ddewis ysgrifennu atom trwy anfon llythyr neu e-bost atom. Ewch draw i’r dudalen Cysylltu â ni er mwyn gweld ein manylion cyswllt.


6.  A all yr adain Bensiynau roi cyngor ar faterion pensiwn?

Yn gyfreithiol, ni all Cronfa Bensiwn Gwynedd roi cyngor ariannol ar unrhyw fater pensiwn dan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 1986, ond gallwn roi cymorth i chi gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.


7.  Sut alla i gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd?

Ewch draw i’r dudalen Cysylltu â ni am fanylion llawn o sut allwch chi gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd.


8.  A ydych chi’n ymdrin â Phensiwn y Wladwriaeth?

Nid yw Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ymdrin ag unrhyw faterion yn ymwneud â Phensiwn y Wladwriaeth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 275 neu ewch draw i wefan pensiwn y wladwriaeth.


9.  Rwyf yn Athro / Athrawes, allwch chi fy helpu i gyda’m ymholiad?

Fel Athro / Athrawes, byddwch yn talu cyfraniadau i Gynllun Pensiwn Athrawon ac nid y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Gallwch gysylltu â Phensiwn Athrawon ar  0845 60 66 166 gydag unrhyw ymholiad sydd gennych, neu ewch draw i wefan cynllun yr athrawon.  (Saesneg yn unig).