Lwfans Oes

Y lwfans oes yw cyfanswm gwerth cyfalaf eich holl drefniadau pensiwn, heb ystyried pensiwn y wladwriaeth, y gallwch gronni heb dalu treth ychwanegol.

Os yw gwerth eich buddion pan fyddwch yn eu tynnu (heb gynnwys unrhyw bensiwn y wladwriaeth, credyd pensiwn y wladwriaeth neu unrhyw bensiwn priod, partner sifil neu ddibynnydd sydd gennych hawl iddo) yn fwy na'r lwfans oes, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y swm dros ben. Y lwfans oes ar gyfer 2022-23 yw £1,073,100. Mae'r lwfans oes yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn sydd gennych ym mhob trefniadau pensiwn a gofrestrwyd am dreth - nid dim ond y CPLlL.

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd dros drothwy eu lwfans oes, ond os ydych yn gwneud bydd yn rhaid i chi dalu ffi treth ychwanegol ar y swm uwchben y lwfans oes.

Sut wyf yn gweithio allan gwerth fy nghynilion pensiwn i brofi yn erbyn y lwfans oes?

Mae’r hafaliad canlynol yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo cyfanswm gwerth eich cynilion pensiwn yn y CPLlL:

(Pensiwn x 20) + Lwmp Swm (os yn berthnasol) + Cronfa CGY (os yn berthnasol) = Lwfans Oes

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyllid a Thollau EM: https://www.gov.uk/tax-on-your-private-pension