Aelodau Gohiriedig

Croeso i’r adran o wefan Cronfa Bensiwn Gwynedd sydd ar gyfer aelodau gohiriedig.

Mae’r rhan yma o’r wefan wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth i aelodau sydd wedi gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) cyn iddynt gyrraedd Oed Ymddeol Arferol, ac o’r herwydd yn gymwys am fuddion gohiriedig. 

Buddion gohiriedig yw buddion pensiwn sydd yn cael eu cyfrifo ar y dyddiad pan fyddwch yn gadael ond bydd y taliad yn cael ei ohirio hyd at eich ymddeoliad.

Wedi gadael y CPLlL gyda buddion gohiriedig gallwch benderfynu:

  • I gadw eich pensiwn o fewn Cronfa Bensiwn Gwynedd hyd at eich ymddeoliad, lle fydd yn cynyddu pob blwyddyn yn unol â chostau byw.
  • I drosglwyddo eich buddion gohiriedig i drefniant newydd, megis cynllun eich cyflogwr newydd neu gynllun pensiwn personol.
  • I gyfuno eich aelodaeth flaenorol gyda'ch aelodaeth newydd (os ydych yn ail ymuno â'r CPLlL).

Mae'r opsiynau hyn yn cael eu ehangu o fewn y testunau isod: