Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1.  A fydd cynnydd yn fy mhensiwn gohiriedig?

Bydd eich pensiwn gohiriedig yn cynyddu yn unol â chostau byw o’r diwrnod y byddwch yn gadael y cynllun hyd at y dyddiad y byddwch yn derbyn eich buddion. Unwaith y bydd eich buddion yn cael eu talu, bydd eich pensiwn yn cynyddu yn yr un modd â buddion pensiynwyr eraill.

2.  Pa wybodaeth fyddaf i’n ei derbyn ynghylch fy mhensiwn gohiriedig?

Pob blwyddyn, byddwn yn llwytho eich Datganiad Buddion Blynyddol ar eich cofnod Pensiwn Arlein er mwyn amlinellu gwerth cyfredol eich buddion pensiwn gohiriedig o fewn Cronfa Bensiwn Gwynedd. Gweler y dudalen Pensiwn Ar-Lein am wybodaeth o sut i gofrestru.

3.  Sut alla’i hawlio fy muddion ar ôl cyrraedd oedran ymddeol?

Byddwn yn cysylltu â chi yn awtomatig pan fydd eich buddion gohiriedig heb ostyngiad yn daladwy, yn cadarnhau pa opsiynau sydd ar gael i chi. Felly, mae hi’n holl bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch cyfeiriad yn y dyfodol. 

4.  Sut alla’i ddod i wybod os oes gennyf fuddion gohiriedig gyda chi?

Cysylltwch â ni ac fe awn i ati i ymchwilio i’r mater ar eich cyfer.  

5.  Sut alla’i gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd?

Ewch i'r rhan "Cysylltu â ni" sydd ar y wefan hon am fanylion llawn o sut y gallwch gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd.

6.  Oes modd i’r adain bensiynau gynghori ar unrhyw faterion yn ymwneud â phensiwn?

Yn gyfreithiol, ni chaiff Cronfa Bensiwn Gwynedd roi cyngor ariannol ar unrhyw faterion yn ymwneud â phensiwn, yn unol â Deddf Gwasanaethau Ariannol 1986, ond rydym ar gael i fod o gymorth gydag unrhyw ymholiadau.  Cysylltwch â ni os allwn fod o unrhyw gymorth. 

7.  Oes modd ad-dalu fy muddion gohiriedig?

Os ydych wedi gadael Cronfa Bensiwn Gwynedd ac wedi derbyn hawl i fuddion gohiriedig ni fydd modd i chi dderbyn ad-daliad. Nid oes modd talu ad-daliad oni bai:

  • Eich bod wedi dewis gadael y cynllun o fewn dwy flynedd ar ôl ymaelodi (neu o fewn 3 mis os ydych wedi gadael rhwng 1/4/2004 a 31/03/2014).
  • Nad oes gennych unrhyw hawliau pensiwn CPLlL eraill.
  • Nad ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r un cynllun.

8.  Beth os fyddai’n penderfynu symud i fyw dramor?

Pe baech yn penderfynu symud o'r Deyrnas Unedig, dylech roi gwybod i Gronfa Bensiwn Gwynedd am eich cyfeiriad newydd yn ysgrifenedig er mwyn i ni fedru cadw mewn cysylltiad a sicrhau y gallwn prosesu eich buddion ar yr amser priodol.  Bydd gennych wedyn yr opsiwn o dalu eich pensiwn i mewn i gyfrif wedi’i gadw yn y Deyrnas Unedig neu fel arall i mewn i gyfrif banc tramor (bydd hyn yn arwain at gostau).

9.  Rwyf i a fy mhartner yn byw gyda’n gilydd, fydd gan fy mhartner hawl i dderbyn unrhyw fuddion? 

Fel rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a ddaeth yn weithredol ar 1af Ebrill 2008, cyflwynwyd buddion goroeswyr ar gyfer partneriaid sy’n cyd-fyw (boed hynny’n bartneriaid o’r rhyw arall neu o’r un rhyw).

Fel aelod gohiriedig, dylech fod wedi gadael y cynllun ar ôl cyfrannu i’r CPLlL ar 1 Ebrill 2008 neu gyn hynny er mwyn i'ch partner sy'n cyd-fyw gael hawl i dderbyn pensiwn goroeswyr. 

Yn ogystal, mae’n rhaid i chi fedru cadarnhau eich bod wedi cydymffurfio â'r meini prawf canlynol am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn dyddiad y datganiad:

  • Rydych wedi bod yn rhydd i briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil.
  • Rydych wedi bod yn cyd-fyw fel pe baech yn ŵr a gwraig neu’n bartneriaid sifil cofrestredig.
  • Nid yw’r un ohonoch wedi bod yn byw gyda rhywun arall fel petaech yn ŵr a gwraig neu’n bartneriaid sifil cofrestredig.
  • Rydych yn gyd-ddibynnol ar eich gilydd yn ariannol, neu mae eich partner wedi bod yn ddibynnol yn ariannol arnoch chi.