Cymudiad Pitw

Beth yw Taliad Cymudiad Pitw?

Cymudiad Pitw yw opsiwn ble y gall aelodau gymryd lwmp swm trethadwy o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn lle pensiwn bach.   O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosib cymudo pensiwn i aelodau CPLlL, eu goroeswyr, plant cymwys neu aelodau â chredyd pensiwn ar yr amod bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni.

Ydw i’n gymwys am Gymudiad Pitw ?

Ar gyfer gwneud taliad cymudo pitw, mae’n RHAID i chi fodloni’r meini prawf canlynol: 

  • Bod yn 60 mlwydd oed neu’n hŷn (65 os ydych yn ddyn gydag aelodaeth cyn Ebrill 1997);
  • Cymryd eich holl fuddion CPLlL fel lwmp swm;
  • Rhaid i gyfanswm gwerth yr holl botiau pensiwn (CPLlL a di-CPLlL) fod yn llai na £30,000;
  • Heb dderbyn lwmp swm cymudiad pitw yn flaenorol o unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig neu, os yw lwmp swm o’r fath wedi ei dalu, mae’n rhaid i’r lwmp swm cymudiad pitw gan y CPLlL cael ei dalu o fewn 12 mis o’r dyddiad y mae’r lwmp swm cymudiad pitw wedi ei dalu i’r aelod,

Mae’r pot pensiwn (Gwerth Cyfalaf) yn cael ei weithio allan drwy ddefnyddio’r hafaliad canlynol:

20 x Pensiwn Blynyddol +  Lwmp Swm Awtomatig (os yn berthnasol) = Pot Pensiwn (Gwerth Cyfalaf eich Buddion)

Sut mae’r Lwmp Swm Cymudiad Pitw yn cael ei gyfrifo?

Mae’r lwmp swm Cymudiad Pitw yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio ffactorau a gyhoeddwyd gan Adran Actwari’r Llywodraeth (GAD). Mae swm o lwmp swm sy’n daladwy yn cael ei bennu gan eich rhyw ac oedran ar eich pen-blwydd diwethaf. Mae’r enghraifft ar y dde yn dangos sut mae’r Taliad Cymudiad Pitw yn cael ei gyfrifo.

A yw’r lwmp swm Cymudiad Pitw yn drethadwy?

Yn wahanol i’ch lwmp swm CPLlL safonol, mae’r lwmp swm Cymudiad Pitw YN drethadwy. Byddai treth yn cael ei dynnu yn awtomatig ar y gyfradd safonol o 20%.

Enghraifft

Rhyw: Gwryw

Dyddiad geni: 15 Mawrth 1952

Dyddiad Cymudo: 29 Mehefin 2015

Oedran ar ddyddiad y Cymudo: 63

Cyfanswm pensiwn yr aelod: £500 y flwyddyn (yf)

Pensiwn dibynnol ar farwolaeth yr aelod: £180 yf

 Ffactor Aelod: 17.13 (Fac1)

Ffactor Dibynnol: 3.31 (Fac2)

Lwmp Swm Cymudiad Pitw sy’n daladwy:

(Pensiwn yr aelod x Fac1) + (Pensiwn dibynnol x Fac2)

(£500 x 17.13) + (£180 x 3.31) = £9,160.80 - 20% Treth = £7,328.64

Noder

Mae taliad Lwmp Swm Cymudiad Pitw yn diffodd eich hawliau pensiwn ac unrhyw hawliau i’ch dibynyddion yn y cynllun ; mae hyn yn golygu ar ol i’r taliad Cymudiad Pitw cael ei wneud, bydd DIM Taliadau pellach yn ddyledus i chi neu unrhyw ddibynyddion ar unrhyw adeg yn y dyfodol.

Nid yw’r Gronfa Pensiwn yn gallu rhoi unrhyw gyngor ariannol, felly dylech ystyried ceisio Cyngor Ariannol Annibynnol pan fyddwch yn ymddeol i sicrhau bod y dewis mwyaf priodol yn cael ei gymryd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cysylltwch â ni os hoffech gael manylion pellach ynghylch yr opsiwn hwn. Mae’r opsiwn hwn yn cael ei ganiatáu ar yr adeg gymryd eich buddion pensiwn neu os ydych eisoes yn derbyn pensiwn.