Newid Mewn Amgylchiadau

Wedi i chi adael Cronfa Bensiwn Gwynedd ag hawl i bensiwn gohiriedig, dylech roi gwybod i’r gronfa yn ysgrifenedig os yw eich amgylchiadau yn newid fel a ganlyn:

Newid cyfeiriad 

Byddwn angen gwybod am eich cyfeiriad newydd er mwyn medru cadw mewn cysylltiad.

Byddwn angen cysylltu gyda chi cyn eich pen-blwydd yn 60 mlwydd oed yn amlinellu’r opsiynau sydd ar gael i chwi o ran talu eich buddion gohiriedig.  

Newid enw 

Bydd angen i chwi roi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch enw er mwyn i ni fedru diweddaru’n cofnodion.

Statws Priodasol

Bydd Grant Marwolaeth a Buddion Pensiwn Blynyddol yn daladwy i'r sawl sy'n ddibynnol arnoch wedi’ch marwolaeth, felly mae'n bwysig fod gennym y wybodaeth gywir o ran eich statws priodasol.

Os y bu i chi adael Cronfa Bensiwn Gwynedd ar ôl 1 Ebrill 2008, a dechrau cyd-fyw gyda partner o’r un rhyw neu fel arall, bydd modd i chwi enwebu eich partner i dderbyn budd-daliadau goroeswyr yn ddibynnol ar gyrraedd rhai meini prawf.  Unwaith y byddwch yn ein hysbysu, anfonwn ffurflen datganiad partner sy’n cyd-fyw â chi atoch.  

Defnyddiwch y ffurflen newid mewn amgylchiadau yn y rhan Atodiadau isod er mwyn rhoi gwybod i ni am unrhyw un o'r newidiadau uchod, gan sicrhau eich bod yn amgáu'r holl ddogfennau priodol. 

Atodiadau

Ffurflen Newid Mewn Amgylchiadau