Scam Pensiwn

Bydd sgiâm pensiwn - pan fydd rhywun yn ceisio eich twyllo chi allan o’ch cronfa bensiwn - yn aml yn dechrau gyda rhywun yn cysylltu â chi yn annisgwyl am:

  • buddsoddiad neu gyfle busnes arall nad ydych wedi siarad â hwy amdano o’r blaen
  • cymryd allan eich arian pensiwn cyn eich bod yn 55 oed
  • y ffyrdd y gallwch fuddsoddi eich arian pensiwn

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi yn annisgwyl ac yn dweud y gallant eich helpu i gael mynediad at eich cronfa cyn 55 oed, mae’n debygol o fod yn sigâm.

Efallai y cewch gynnig ffordd ddeniadol i fuddsoddi eich cronfa bensiwn, er enghraifft buddsoddi mewn gwesty newydd sy’n cael ei adeiladu mewn lleoliad egsotig. Mae’r rhan fwyaf o’r cynigion hyn yn ffug ond gallant ymddangos yn gredadwy iawn. Eu nod yw i’ch cael i gyfnewid eich cronfa bensiwn a throsglwyddo’r arian.

Unwaith y byddwch wedi trosglwyddo eich arian i mewn i sgiâm, mae’n rhy hwyr. Gallech golli eich holl arian pensiwn yn ogystal â wynebu treth o hyd at 55% neu ffioedd ychwanegol enfawr.

Sut i ddweud os yw’n sgiâm

Gwyliwch allan os yw unigolyn neu gwmni yn:

  • cysylltu â chi yn annisgwyl (a elwir yn ‘galwad ar hap’) am eich arian pensiwn dros y ffôn, drwy neges testun, ymweld â chi’n bersonol, neu mewn ffyrdd eraill
  • dweud y gallwch gael mynediad i’ch arian pensiwn cyn 55 oed ac y gallant eich helpu gyda hyn
  • eich annog i gymryd lwmp swm mawr, neu’ch cronfa bensiwn i gyd ar yr un pryd, ac i adael iddynt fuddsoddi hynny ar eich rhan
  • gofyn i chi drosglwyddo eich arian yn gyflym, hyd yn oed anfon dogfennau i chi drwy negesydd - peidiwch byth a gwneud penderfyniad ar frys am eich arian pensiwn
  • defnyddio geiriau fel ‘rhyddhad pensiwn’, ‘benthyciad’, ‘bwlch’, ‘adolygiad pensiwn am ddim’ neu ‘fuddsoddiad unwaith ac am byth’
  • cynnig buddsoddiad i chi sydd wedi’i ddisgrifio fel ‘unigryw’, ‘tramor’, ‘cyfeillgar i’r amgylchedd’, ‘moesegol’ neu mewn diwydiant      ‘newydd’

Sut i ddiogelu eich hun

Edrychwch i weld os yw’r person neu gwmni sy’n cysylltu â chi ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol neu ffoniwch yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar 0800 111 6768. Os byddwch yn galw person neu’r cwmni’n ôl, defnyddiwch y rhif ffôn a restrir ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.

Efallai bydd rhywun yn cysylltu â chi sy’n honni i fod yn ddarparwr pensiwn, ymgynghorydd ariannol neu o’r llywodraeth.

Os oes unrhyw un yn eich galw ar hap yn honni eu bod o’r llywodraeth ac yn gofyn am eich manylion personol neu ariannol, peidiwch â’u datgelu iddynt. Rhowch y ffôn i lawr os oes angen.

Am rhagor o wybodaeth neu os ydych yn amau sgam, rhowch wybod i: