Trosglwyddo Buddion Allan

Wedi i chi adael Cronfa Bensiwn Gwynedd ag hawl i fuddion gohiriedig, bydd gennych yr opsiwn i drosglwyddo’r buddion hyn i’r mathau a ganlyn o gynlluniau:  

Cronfa CPLlL Arall

Os ydych wedi gadael Cronfa Bensiwn Gwynedd ac wedi derbyn swydd gan gyflogwr sy’n cyfrannu i Gronfa CPLlL arall, bydd yn bosibl i chi drosglwyddo eich buddion pensiwn gohiriedig i’r gronfa honno. 

Ni fydd hyn yn digwydd yn awtomatig. 

O fewn blwyddyn o ail ymuno â’r Gronfa newydd, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr newydd fod gennych hawliau pensiwn blaenorol gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd ac eich bod yn dymuno ymchwilio i drosglwyddo i’w cynllun hwy.  Byddant wedyn yn gyrru llythyr atoch yn amlinellu’r cyflog y mae eich buddion pensiwn yn seiliedig arno gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd ynghyd â chyflog cychwynnol y swydd newydd. 

Pe byddwch yn penderfynu gwneud hyn, bydd eich aelodaeth fel arfer yn cael ei throsglwyddo drosodd ar sail diwrnod am ddiwrnod.  

Darparwr nad yw'n ran o'r CPLlL

Mae’n bosibl trosglwyddo eich buddion gohiriedig i ddarparwr nad yw’n rhan o’r pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, megis:

  • Cynllun pensiwn eich cyflogwr newydd
  • Cynllun pensiwn personol
  • Cynllun pensiwn budd-ddeiliaid

Fe all hyn fod i gynllun tramor neu drefniant sydd wedi’i gymeradwyo’n llawn gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Dylech gysylltu â gweinyddwr eich cynllun newydd er mwyn darganfod a ydynt yn fodlon ac yn medru derbyn trosglwyddiad o Gronfa CPLlL, a’r drefn ar gyfer gwneud hynny.

Pan fyddwn yn derbyn cais, byddwn yn cyflwyno gwerth trosglwyddo’ch buddion gohiriedig, a bydd y swm hwn yn cael ei warantu am dri mis o’r dyddiad y’i cyfrifwyd.   Bydd eich gweinyddwr pensiwn newydd wedyn yn rhoi dyfynbris i chi yn amlinellu ei werth yn eu cynllun pensiwn hwy. 

Bydd yn gyfrifoldeb arnoch chi i gymharu’r buddion y byddai’r trosglwyddiad yn ei ddarparu gyda’r buddion y byddech yn ei dderbyn fel aelod gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwynedd. 

Pe baech yn penderfynu trosglwyddo, ni fydd gennych hawliau pensiwn o fewn Cronfa Bensiwn Gwynedd wedyn.

Pwyntiau i'w nodi

Pe baech yn dymuno ymchwilio i drosglwyddo eich buddion gohiriedig i un o’r cynlluniau hyn, dylech gysylltu â’ch darparwr pensiwn newydd i weld a ydynt yn medru derbyn trosglwyddiad ai peidio ac a oes yna gyfyngiadau amser ar gyfer hynny.  Os ydynt yn fodlon, byddent wedyn yn ysgrifennu atom ni yn gofyn am ddyfynbris o werth y trosglwyddiad ac yna’n rhoi gwybod i chi beth fydd gwerth eich buddion yn eu cynllun hwy.

Bydd yn rhaid i chwi wneud cais i drosglwyddo’ch buddion o Gronfa Bensiwn Gwynedd o leiaf blwyddyn cyn eich oed pensiwn arferol.  

Nid yw trosglwyddo’ch hawliau pensiwn yn benderfyniad sy’n hawdd i’w wneud pob tro ac efallai y dymunech cael cymorth gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.