Ychwanegu at Eich Buddion

Fel Cynghorwr, gallwch ychwanegu at eich buddion drwy wneud trefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY). 

Mae gan Cronfa Bensiwn Gwynedd cynllun mewnol lle gallwch fuddsoddi arian drwy'r darparwr CGY, Clerical Medical.  

Mae cyfraniadau’n cael eu didynnu o’ch lwfansau cyn treth, felly maent yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn y dreth.  Gallwch dalu hyd at 50% o’ch enillion trethadwy i gynllun CGY mewnol ym mhob cyflogaeth lle yr ydych yn cyfrannu at y CPLlL.  Nid oes cyfyngiad o ran yr isafswm y gallwch ei dalu bob mis.  Cysylltwch â ni os hoffech ddyfynbris. 

Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi ar wahân i’r prif gyfraniadau, mewn cronfa o’ch dewis chi gyda Clerical Medical.  Bydd gennych eich cyfrif personol yn cynnwys eich cyfraniadau ac unrhyw elw ar eich buddsoddiad.  Ni ellir rhyddhau unrhyw werth o’r gronfa hyd nes y byddwch yn cymryd prif fuddion eich cynllun.

Pan fyddwch yn ymddeol, mae sawl opsiwn ar gael o ran cymryd y buddion o’r gronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol.  Rhoddir yr wybodaeth lawn i chi er mwyn eich galluogi i wneud penderfyniad deallus.

Gweler y rhan Atodiadau isod am ffurflen gais a llyfryn gwybodaeth Clerical Medical.

Yr opsiynau ymddeol sydd ar gael ar hyn o bryd yw:

  1. Cymryd blwydd-dal gan Clerical Medical gyda 25% o lwmp swm di-dreth, neu hebddo.
  2. Cymryd blwydd-dal gan ddarparwr arall – yr opsiwn marchnad agored (byddai unrhyw lwmp swm di-dreth yn dibynnu ar bolisi’r darparwr newydd).
  3. Cymryd lwmp swm di-dreth o hyd at 100% o’ch cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, os nad yw’r cyfyngiadau a ganiateir wedi’u pasio. Bydd y ffigwr hon yn newid wrth i’ch cyflog a’ch cronfa gynyddu.
  4. Gohirio eich pensiwn CGY hyd at unrhyw bryd cyn i chi fod yn 75 mlwydd oed.

Rhai pethau pwysig i’w nodi:

  • Nid oes angen archwiliad meddygol cyn dechrau cyfrannu at y gronfa CGY.
  • Mae taliadau yn cychwyn o’r diwrnod cyflog nesaf sy’n dod ar ôl i’ch dewis cael ei dderbyn.
  • Gallwch amrywio’r taliadau neu roi’r gorau iddynt unrhyw bryd pan fyddwch yn cyfrannu at y CPLlL trwy wneud cais ysgrifenedig i Gronfa Bensiwn Gwynedd.
  • Gallwch newid eich dewis o fuddsoddiad unrhyw bryd trwy wneud cais ysgrifenedig i Gronfa Bensiwn Gwynedd. 
  • Os fyddwch yn marw mewn gwasanaeth, telir gwerth llawn y gronfa i’ch dibynyddion / person(au) enwebedig.
  • Os fyddwch yn gadael cyflogaeth llywodraeth leol ac yn trosglwyddo eich buddion CPLlL i gynllun arall nad yw’n GPLlL, fel arfer gallwch drosglwyddo eich cronfa CGY yn ogystal. Dylech ofyn wrth eich darparwr pensiwn newydd am fanylion.
  • Os fyddwch yn cymryd eich buddion CGY sydd wedi’u gohirio ar yr un pryd â’ch buddion prif gynllun wedi’u gohirio, bydd gennych dal ddewis, o fewn y cyfyngiadau sydd wedi’u gosod, i gymryd hyd at 100% o lwmp swm di-dreth o ran yr CGY.
  • Os fyddwch yn penderfynu gohirio eich buddion CGY hyd at unrhyw adeg cyn i chi fod yn 75 mlwydd oed ar ôl cymryd eich prif fuddion pensiwn, yna pan fyddwch yn barod i gymryd eich buddion CGY, dim ond yr opsiynau yn rhannau 1 a 2 uchod fydd ar gael i chi, gyda lwmp swm di-dreth o 25%, neu hebddo.

 

Atodiadau

Ffurflen Gais

Llyfryn Gwybodaeth

Rhest o gronfeydd sydd ar gael