Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1.  Pa fuddion fydda i’n eu cael fel aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?

Fel aelod o’r cynllun buddion wedi’u diffinio, gallwch edrych ymlaen at: 

  • Pensiwn wedi’i warantu am oes yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy ym mhob blwyddyn tra yn y cynllun (neu aelodaeth a chyflog terfynol ar gyfer unrhyw aelodaeth a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2014).
  • Cynnydd yn eich pensiwn bob blwyddyn yn unol â chostau byw.
  • Yr opsiwn o lwmp swm di-dreth pan fyddwch yn ymddeol.
  • Buddion marwolaeth i briod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi (os ydynt yn dal yn fyw), yn cynnwys lwmp swm grant marwolaeth.
  • Buddion ymddeol oherwydd salwch os fyddwch chi’n mynd yn ddifrifol wael unrhyw bryd.
  • Ymddeoliad cynnar o 55 mlwydd oed. Efallai y bydd eich pensiwn yn cael ei ostwng yn sgil cael ei ryddhau’n gynnar. 
  • Ymddeoliad hyblyg - gallwch ddewis ymddeol yn raddol os yw’ch cyflogwr yn caniatáu hynny.   

Am fanylion llawn o’r opsiynau ymddeol sydd ar gael i chi, yna ewch draw i’r adran Pryd y gallaf ymddeol? 

2.  Os fydda i’n ymddeol yn gynnar, pam fydd fy mhensiwn yn cael ei ostwng?

Mae’ch Pensiwn Llywodraeth Leol yn daladwy am oes. Felly, os fyddwch yn ymddeol yn gynnar, rhagwelir y bydd eich pensiwn yn cael ei dalu am gyfnod hirach o amser. O ganlyniad, rydym yn cymryd hyn i ystyriaeth trwy ostwng eich pensiwn.

3.  A yw hi’n bosib derbyn ad-daliad o’m cyfraniadau?

Gallwch dderbyn ad-daliad o’ch cyfraniadau, llai unrhyw ddidyniadau treth a’r gost o’ch ailosod yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P), ar yr amod:

  • Eich bod yn gadael y cynllun o fewn dwy flynedd o ymuno â’r cynllun.
  • Nad oes gennych unrhyw hawliau pensiwn CPLlL eraill.
  • Nad ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun.

Os ydych yn dymuno peidio â chyfrannu at y cynllun, ewch i'r dudalen optio allan.  

4.  A all yr adain Bensiynau roi cyngor ar faterion pensiwn?

Yn gyfreithiol, ni all Cronfa Bensiwn Gwynedd roi cyngor ariannol ar unrhyw fater pensiwn dan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 1986, ond gallwn roi cymorth i chi gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
 
5.  Sut alla i gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd?

Ewch draw i’r dudalen Cysylltwch a ni am fanylion llawn o sut allwch chi gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd.