Trosglwyddo Buddion

Os ydych wedi bod yn aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd am lai na 12 mis, mae’n bosib i chi wneud cais i drosglwyddo buddion pensiwn o gynllun blaenorol i’r gronfa hon.

Mae'n bosib y gallech drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r Cynllun o'r cynlluniau canlynol:

  • Cronfa CPLlL blaenorol.
  • Cynllun pensiwn Cyflogwr blaenorol; (yn cynnwys cynllun tramor).
  • Cynllun pensiwn hunangyflogedig.
  • Polisi 'prynu allan'.
  • Cynllun pensiwn personol.
  • Cynllun pensiwn cyfranddeiliaid. 

Rhaid gwneud cais am drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r Cynllun o fewn12 mis o ymuno â'r Cynllun.  Ar ôl 12 mis, gellir trosglwyddo hawliau pensiwn gyda chaniatâd eich cyflogwr yn unig.  Er mwyn gwneud cais i drosglwyddo cysylltwch a Cronfa Bensiwn Gwynedd.

Nodwch

Ni fydd unrhyw gais a wnewch i archwilio trosglwyddiad yn eich rhwymo nes y byddwch wedi cael y manylion llawn ac wedi cadarnhau eich bod am i'r trosglwyddiad fynd rhagddo.

Cofiwch roi ystyriaeth ofalus cyn penderfynu trosglwyddo buddion pensiwn blaenorol mewn i'r CPLlL.  Efallai y byddwch yn dymuno cael Cyngor Ariannol Annibynnol cyn gwneud y penderfyniad hwn.

Darganfod eich darparwr pensiwn blaenorol

Os wedi colli cysylltiad â’ch darparwr pensiwn blaenorol, fe all y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn fod o gymorth. Dyma’r manylion cyswllt:

Gwasanaeth Olrhain Pensiwn
Y Gwasanaeth Pensiwn 9
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LU

Ffôn: 0845 6002 537