Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hon yn berthnasol i’r parthau canlynol:

https://www.cronfabensiwngwynedd.cymru/

https://www.gwyneddpensionfund.wales/

https://www.gwyneddpensionfund.org.uk/

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr adran Pensiynau yng Nghyngor Gwynedd. Rydym am i nifer o bobl â phosibl gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, ddylech eich bod yn gallu:

  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio allweddell yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar ran fwyaf o’r wefan yn defnyddio darllenwr sgrin (gan gynnwys y fersiwn mwyaf diweddar o JAWS, NVDA ac VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet cyngor ar wneud eich dyfais hawsach i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrchedd yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch newid lliw, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • ni allwch addasu uchder y llinell neu fylchau testun

 

Adborth a Manylion Cysylltu

Os ydych eisiau gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille, cysylltwch trwy:

Mi wnawn ystyried eich cais a chysylltu yn ôl gyda chi mewn 10 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen ‘cysylltwch â ni’, ffoniwch neu e-bostiwch am gyfarwyddiadau.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch ag aelod o'r tîm pensiynau ar 01286 679982.

 

Gweithdrefn Orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Accessbibility Regulations 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun sydd yn D / byddar, nam ar y clyw neud sydd gyda rhwystr lleferydd.

Mae dolenni sefydlu sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni ar ein tudalen 'cysylltwch â ni'.

 

Gwybodaeth dechnegol ar hygyrchedd y wefan hon

Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Accessibility Regulations 2018.

 

Statws cydymffurfio


Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd nad yw ffeiliau PDF a dogfennau eraill yn cydymffurfio.

 

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd


Llywio a chyrchu gwybodaeth


Nid oes unrhyw ffordd i hepgor y cynnwys sy’n cael ei ailadrodd ym mhennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘skip to main content’).


Ar hyn o bryd ni allwch newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau nac addasu uchder llinell neu fylchau testun.

 

Baich anghymesur

Gwag.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill


Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau PDF. Erbyn mis Mawrth 2021, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.


Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.


Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â safonau hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22/09/2020. Fe'i hadolygwyd diwethaf ar 22/09/2020.


Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13/08/2020. Cynhaliwyd y prawf gan Dîm Datblygu Gwe Cyngor Gwynedd.


Rydym wedi profi pob tudalen gan ddefnyddio offer sydd ar gael yn ein System Rheoli Cynnwys.