Bwrdd Pensiwn

Beth yw rôl y bwrdd?

Mae'r Bwrdd Pensiwn Gwynedd yn gyfrifol am gynorthwyo Cyngor Gwynedd, sef Rheolwyr y Cynllun i sicrhau cydymffurfiad â:

  • Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
  • Unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n ymwneud â llywodraethu a gweinyddiad y Cynllun;
  • Gofynion a osodir gan y Rheolydd Pensiynau mewn perthynas â'r Cynllun;
  • Sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol y Cynllun.

Mae'r Bwrdd Pensiynau yn gorff goruchwylio ac ni fydd yn gwneud penderfyniadau ac ni fydd yn cymryd lle'r strwythur llywodraethu sy’n bodoli eisoes yng Nghronfa Bensiwn Gwynedd mewn perthynas â gweinyddu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Gweler yr adran atodiadau isod am adroddiadau a munudau'r Bwrdd Pensiynau.

Pwy sydd ar y Bwrdd Pensiynau?

Mae'r bwrdd cael ei ffurfio o 3 chynrychiolydd sy'n aelodau a 3 cynrychiolwyr cyflogwyr:

Cynrychiolwyr yr Aelodau:

Osian Gruffydd Richards - Cyngor Gwynedd

Hywel Eifion Jones - Cyngor Sir Ynys Mon (wedi ymddeol)

1 sedd wag

Cynrychiolwyr y Cyflogwr:

Sioned Evans Parry - Cyngor Conwy

Cynghorydd Beca Roberts - Cyngor Gwynedd

1 sedd wag