Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml

1.  Sut fydd fy mhensiwn yn cael ei dalu?

Fel arfer, bydd eich pensiwn yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar y diwrnod gwaith olaf ym mhob mis. 

2.  Ni dderbyniais slip talu pensiwn y mis hwn?

Dim ond ym mis Mawrth o bob blwyddyn y bydd y slip talu yn cael ei anfon atoch.  Yn dilyn hynny, ni fydd slip talu yn cael ei anfon allan oni bai fod yna wahaniaeth o fwy na £5.00 o gymharu â thaliad pensiwn y mis blaenorol.

3.  Pam fy mod i wedi talu cymaint o dreth?

Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn didynnu treth yn unol â’r cod treth a osodwyd gan y Swyddfa Dreth.  Os oes gennych ymholiad sy’n ymwneud â’r dreth, cysylltwch â’r Swyddfa Dreth ar 0300 200 1900, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 914/B11081

4.  Beth os fyddai’n penderfynu symud i fyw dramor?

Pe baech yn penderfynu symud o’r Deyrnas Unedig, dylech roi gwybod i Gronfa Bensiwn Gwynedd am eich cyfeiriad newydd yn ysgrifenedig.  Bydd gennych wedyn yr opsiwn o dalu eich pensiwn i mewn i gyfrif wedi’i gadw yn y Deyrnas Unedig neu fel arall i mewn i gyfrif banc tramor (Drwy wasanaeth Western Union). 

5.  Sut alla’i gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd?

Ewch i'r rhan Cysylltu â ni sydd ar y wefan hon am fanylion llawn o sut y gallwch gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd.

6.  Oes modd i’r adain bensiynau gynghori ar unrhyw faterion yn ymwneud â phensiwn?

Yn gyfreithiol, ni chaiff Cronfa Bensiwn Gwynedd roi cyngor ariannol ar unrhyw faterion yn ymwneud â phensiwn, yn unol â Deddf Gwasanaethau Ariannol 1986, ond rydym ar gael i fod o gymorth gydag unrhyw ymholiadau.  Cysylltwch â ni os oes modd i ni fod o unrhyw gymorth. 

7.  Ydych chi’n ymdrin â’r Pensiwn Gwladol?

Nid yw Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ymdrin ag unrhyw faterion sy’n ymwneud  â’r Pensiwn Gwladol.  Ar gyfer unrhyw ymholiadau,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 0453 neu ewch ar eu gwefan https://www.gov.uk/browse/working/state-pension.

8.  Rwyf i a fy mhartner yn byw gyda’n gilydd, fydd gan fy mhartner hawl i dderbyn unrhyw fuddion? 

Fel rhan o’r CPLlL o Ebrill 1af 2008, cyflwynwyd buddion goroeswyr ar gyfer partneriaid sy’n cyd-fyw, boed hynny o wahanol ryw, neu o’r un rhyw. 

Fel pensiynwr, dylech fod wedi ymddeol ar ôl cyfrannu i’r CPLlL ar 1 Ebrill 2008, neu ar ôl hynny, er mwyn i'ch partner gael hawl i dderbyn pensiwn goroeswyr. 

Yn ogystal, mae’n rhaid i chi fedru cadarnhau fod pob un o’r meini prawf a ganlyn wedi bod yn berthnasol i chi am gyfnod parhaus o 2 flynedd cyn dyddiad y datganiad:

  • Rydych wedi bod yn rhydd i briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil.
  • Rydych wedi bod yn cyd-fyw fel pe baech yn ŵr a gwraig neu’n bartneriaid sifil cofrestredig.
  • Nid yw’r un ohonoch wedi bod yn byw gydag unrhyw un arall fel petaech yn ŵr a gwraig neu bartneriaid sifil.
  • Rydych yn gyd-ddibynnol ar eich gilydd yn ariannol, neu mae eich partner wedi bod yn ddibynnol yn ariannol arnoch chi.

Os fyddwch yn bodloni’r holl feini prawf uchod ac yn dymuno enwebu partner sy’n cyd-fyw â chi, cysylltwch â ni fel y gallwn anfon ffurflen atoch.